Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
12 Mehefin 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5665
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Cododd David Rees bwynt o drefn ynghylch Aelod o Blaid Brexit yn galw ‘celwyddgi’ o’i sedd yn ystod un o atebion y Cwnsler Cyffredinol i gwestiwn. Diolchodd y Llywydd i’r Aelod am roi cyfle iddi ystyried y defnydd diweddar o iaith yn y Siambr, gan gynnwys cyhuddiad bod Aelod o Blaid Cymru wedi defnyddio yr un ymadrodd yn erbyn Aelod o Blaid Brexit yr wythnos diwethaf. Dywedodd y Llywydd fod gormod o Aelodau yn amharchus tuag at Aelodau eraill ac nad yw am dreulio ei holl amser yn plismona’r defnydd o iaith gan Aelodau yn y lle hwn. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd y dylent ymddwyn yn gwrtais yn eu trafodion, ac na fyddai cyhuddiadau o ‘gelwyddgi’ ac iaith amharchus yn cael eu goddef o hyn ymlaen.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mick Antoniw (Pontypridd) :A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod nifer o ddinasyddion yng Nghymru yn debygol o golli eu hawl i gael trwydded deledu am ddim?
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yng ngoleuni adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig, sy'n nodi y dylai toll teithwyr awyr gael ei datganoli'n llawn i Gymru, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diddymu neu ostwng y gyfradd os trosglwyddir y pŵer i Gymru?
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) : A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad bod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am Wythnos Gofalwyr.
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am y gwaith sy’n cael ei wneud i goffáu Daniel James (Gwyrosydd).
Gwnaeth Bethan Sayed ddatganiad am Eid/Ramadan.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitemau hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, cafodd y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau eu grwpio ar gyfer eu trafod a phleidleisio arnynt.
NDM7072 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.
NDM7073 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
NDM7074 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
NDM7075 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
a) David Rowlands (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad; a
b) Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
0 |
12 |
Oherwydd y cafodd y cynigion eu cefnogi gan ddau draean o’r Aelodau a oedd yn pleidleisio, derbyniwyd y cynigion.
Dechreuodd yr eitem am 15.51
NDM7061 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7066 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am i'r buddsoddiad gwreiddiol a glustnodwyd ar gyfer cynnig ffordd liniaru'r M4, ac a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru, gael ei glustnodi o'r newydd tuag at ddatblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd o amgylch Casnewydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
28 |
38 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn nodi’r penderfyniad a’r datganiad llafar a wnaed gan Brif Weinidog Cymru ddydd Mawrth 4 Mehefin ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
2. Yn nodi’r camau arfaethedig nesaf fel yr amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Chomisiwn arbenigol i’w arwain gan yr Arglwydd Terry Burns.
3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
20 |
39 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
9 |
38 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth yr £114 miliwn o arian trethdalwyr Cymru sydd wedi'i wastraffu ar ddatblygu cynigion ffordd liniaru'r M4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
20 |
39 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys tagfeydd ar yr M4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
20 |
39 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro ar frys beth yw ei chynlluniau yn y dyfodol ar gyfer datrys y tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
19 |
37 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7066 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth lywio gwaith cynllunio seilwaith cenedlaethol strategol a hirdymor.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
6 |
25 |
38 |
Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7065 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff plastig y gellir ei osgoi drwy hefyd:
a) gwahardd cyflenwi gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau;
b) atal y cyflenwad o ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; ac
c) gwahardd trowyr diodydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
26 |
38 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.
2.Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.
4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.
5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.
6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
17 |
38 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
0 |
38 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy, a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
0 |
38 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7065 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.
2.Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.
4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.
5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.
6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.
8. Yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy, a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
5 |
38 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.37
Dechreuodd yr eitem am 18.44
NDM7064 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Mynd i'r afael â'r cynnydd mewn sgamiau yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.02
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2019